Skip to content

Fideos

GWCT Welsh Farming Community

Manteision plannu goed a rheoli gêm ar ffermydd

Mae Julian Fenwick yn rheoli fferm mynydd cymysg gyda syndicet bach i saethu ffesantod ger Machynlleth, Powys, tra bod ei fab Nick yw Pennaeth Polisi i Undeb Amaethwyr Cymru (UAC). Mae’r ddau yn trafod gyda Rheolwr Prosiectau Lee Oliver y buddion o blannu coed a rheolaeth gêm ar ffermydd, ond yn amlygu’r camau sydd angen i sicrhau bod yr ymarferion yma yn llwyddiannus.

“Allwchi chi ddim bod yn wyrdd os ydych chi yn y coch” – John Yeomans

Ger Trenewydd yn Sir Drefaldwyn, mae John Yeomans a’i deulu yn rhedeg fferm da byw cymysg ble maent yn treialu amrywiaeth o dechnegau i wella eu hiechyd pridd. Ar y cyd â hyn, maent wedi addasu rheolaeth o’r nifer o gynefinoedd ar eu fferm i gefnogi bywyd gwyllt lleol.

Sut y gall ffermio âr gynhyrchiol a bywyd gwyllt ffynniannus, weithio law yn law – Richard a Lyn Anthony

Mae Richard a Lyn Anthony yn rhedeg busnes contractio a ffermio âr ym Morgannwg. Gyda Phennaeth Addysg a Chynghorydd i Gymru Matt Goodall, maent yn arddangos yr ymarferion ffermio arloesol y maent y neu defnyddio i wella eu cynnyrch, yn ychwanegol i’w gwaith cadwraeth sy’n hybu pryfed, adar ac ysgyfarnogod i ffynnu.

Rheoli porfeydd er budd da byw a natur – Teulu’r Loxdale

Mae Fferm Castle Hill ger Aberystwyth yn gartref i deulu’r Loxdale (Peter, Megan, Patrick a Susan), ac maent yn rheoli cymysg o borfeydd ar dir uchel ac isel ar gyfer gwartheg cig eidion a defaid. Mae’r ffilm yma yn manylu eu taith tuag at sicrhau eu bod yn rheoli eu tir er mwyn gwella iechyd pridd er budd da byw a bywyd gwyllt.

O’r pridd i’r plat – Cyfweliad â’r cogydd Cymraeg Bryn Williams

Y cogydd Bryn Williams yn sgwrsio â Rheolwr Prosiectau GWCT Cymru, Lee Oliver am ei fferm 25 erw, sy’n helpu i gyflenwi ei ddau fwyty â chynhwysion ffres.

Pam mai’r ffermwyr yw dyfodol yr amgylchedd yng Nghymru – Gareth Wyn Jones

Ffermio’r ucheldir, cadwraeth bywyd gwyllt a charbon a gaiff ei drafod â’r ffermwr defaid, Gareth Wyn Jones.

Ffermio adfywiol ger lan yr afon – Sam Kenyon

Gyda defaid, geifr a ieir, mae Sam Kenyon yn ffermio ar lannau yr Afon Elwy yn Sir Ddinbych. Mae Sam yn trafod â Rheolwr Prosiectau Lee Oliver sut mae’n llywio’r gwaith o ffermio’r tir i gyd fynd â natur yn lle yn ei erbyn gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau.

Cadwraeth ar waith yng Nghefn Amwlch

Dafydd Wynne Finch, Perchennog y Fferm a Carwyn, Rheolwr y Fferm yn egluro’u siwrne gadwraethol o’r ochr ymarferol yn fferm Cefn Amwlch, Pen Llŷn. Fferm laeth sydd â system bori gylchol. Caiff gwartheg croes Jersey a’u godro yma, gan ganolbwyntio ar gynnyrch solid a wnaeth o lefrith – menyn, braster a phrotein ar gyfer gwneud caws. Bydd stori Cefn Amlwch yn cael ei gynnwys yng nghymuned Cymuned Ffermio GWCT Cymru – a gaiff ei lansio yn y Sioe Frenhinol – rhagor o wybodaeth i ddilyn.