Beth yw Cymuned Ffermio GWCT Cymru?
Heddiw, mae llywodraethau’n gofyn i ffermwyr fynd i’r afael â’r argyfwng deuol brys o’r lleihad mewn bioamrywiaeth a chynhesu byd-eang. Bydd Cymuned Ffermio GWCT yn darparu llwyfan i aelodau rannu syniadau ar arferion gorau, a darparu tystiolaeth ‘llawr gwlad’ i Lywodraeth Cymru sut y gall ffermio sicrhau ffyrdd gwell ar gyfer dal carbon a mwy o fioamrywiaeth ar yr un pryd â sicrhau diogelwch bwyd i’r genedl.
Pwy yw y GWCT?
Rydym yn elusen gyda hanes hir o waith ymchwil ac yn cyhoeddi astudiaethau gwyddonol yn ymwneud â rheoli tir. Rho hyn sail i’n gwasanaeth cynghori ar gyfer ffermwyr, stadau saethu a pherchnogion afonydd.
Dros yr 80 mlynedd ddiwethaf rydym wedi meithrin perthynas ddibynadwy â rheolwyr tir lle rydym yn cydnabod eu hangen i redeg busnesau gwydn. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio ar ffyrdd y gallant sicrhau mwy o fioamrywiaeth o’r tir y maent yn ei reoli.
Sut allwch chi helpu?
Mae GWCT wedi datblygu ‘Siarter Fferm’ sydd yn nodi ein hamcanion a sut y credwn y gallwn eu cyflawni. Drwy ymuno â’r fenter Cymru gyfan hon, gallwch chwarae rhan bwysig yn y gwaith o greu dyfodol disglair ar gyfer ffermio a rhywogaethau sydd dan fygythiad fel y gylfinir, yr ysgyfarnog, y draenog a’r bras melyn.