Sam Kenyon

Mae Sam Kenyon wedi bod yn ffermio’n adfywiol ar ei fferm gyda’i gŵr yng Ngogledd Cymru ers 2020. Gan ganolbwyntio ar iechyd pridd, mae wedi cyflwyno gwyndwn llysieuol yn Fferm Glanllyn, Llanelwy, Sir Ddinbych fel ffordd naturiol o sefydlogi nitrogen yn y pridd, gan osgoi defnyddio gwrtaith cemegol a gwella iechyd ei haid fach o 90 o ddefaid croesryw Cymreig.

Dywedodd, “Mae’r gwyndwn llysieuol yn stwff anhygoel. I ddechrau nid oedd gan y defaid ddiddordeb yn y sicori, ond erbyn diwedd yr haf roeddynt yn ei fwyta, a dim ond ambell un sydd wedi gorfod derbyn triniaeth ar gyfer llyngyr am y tro cyntaf mewn blwyddyn. Mae rhai yn edrych ar daenlen er mwyn sicrhau bod popeth yn iawn, rwy’n edrych ar garthion y defaid er mwyn gwirio iechyd y da byw, a gweld os oes pryfed sy’n dibynnu ar y carthion hyn. Os ydych chi’n rhoi gormod o driniaeth ar gyfer llyngyr i’r anifeiliaid, bydd yn lladd nifer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn pwysig sy’n byw yn y carthion a’r pridd.”

Yn ychwanegol i’r gwyndwn llysieuol, lledaenir gwrtaith naturiol gan yr ieir, wrth symud cytiau’r ieir bob dydd, gan sicrhau bod eu tail yn gwasgaru ar draws y cae. Rheoli’r chwyn gan eifr brîd deuol Sam, a allai waredu blodau asgell o gae, ac felly yn eu hatal rhag taflu eu hadau. Dywedodd, “Gwyddwn fod popeth sy’n byw yng ngwe fwyd y pridd yn elwa o’r ffaith nad oes gwrtaith synthetig na phlaladdwyr. Mae gweld y gwyndwn yn llawn peillwyr yn ystod yr haf yn werth chweil, rydych yn teimlo eich bod yn gwneud rhywbeth yn iawn, sydd hefyd yn dda i iechyd meddwl.”

Mae lliniaru colli pridd i’r Afon Elwy, sy’n rhedeg drwy’r fferm, wedi bod yr un mor llwyddiannus. Mae ymyl byffer wedi ei ffensio ar hyd y cwrs dŵr, ble yr oedd caeau yn arfer cael eu haredig i ymyl yr afon, gan achosi ymyl yr afon i gwympo yn ystod fflachlifogydd. Er mwyn cryfhau’r ymylon ym mhellach, maent wedi eu crafu’n ôl i ongl o 30% gan gladdu prysgoed helyg yn ochr yr afon. Mae’r coed helyg yn tyfu o’r boncyff ac o ganlyniad bydd y gwreiddiau yn cynnal y pridd rhag llithro i’r afon. Dywedodd Sam, “Mae wedi gweithio’n wych, mae fel petai natur yn ceisio datrys ei phroblemau ei hun ac mae ffermio confensiynol yn trio rhoi stop i hynny. Pan wnaethom ffensio’r afon a gadael iddo adfer mewn modd naturiol yr ochr arall i’r ffens, dychwelodd amrywiaeth mawr o blanhigion a oedd wedi bod yn segur yn y pridd.”

Mae Sam yn gwerthu ei chig oen a gafr, a gaiff eu pori ar ei thir, i gwsmeriaid lleol trwy ei chynllun bocsys cig, ac felly yn torri ôl troed carbon y broses dosbarthu. Wrth edrych i’r dyfodol, mae hi’n gobeithio adfer adfeilion fferm yn ystafell ddosbarth er mwyn croesawu plant i ymweld â’r fferm er mwyn iddynt gysylltu â byd natur a dysgu am ffermio atgynhyrchiol. Dywedodd, “Gallwch wastraffu llawer o arian yn trio brwydro yn erbyn natur, yn fy meddwl i, mae’n well gweithio gyda hi.”