Richard a Lyn Anthony

Mewn 16 mlynedd, newidiodd Richard a Lyn Anthony o reoli haid fach o ddefaid ar dir rhent 110 erw i gymysg o ffermio ar gontract a Thenantiaethau Busnes Fferm hirdymor yn rhedeg 3,000 erw o dir âr a glaswellt gyda haid o 800 o ddefaid. Yn un o arloeswyr dwysáu cynaliadwy, yn 2013, etholwyd Richard yn gymrawd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i gydnabod ei waith ar reoli pridd, a gynyddodd ei gynnyrch 25-30% a chynyddu’r boblogaeth o bryfed genwair 10 gwaith. Mae’n parhau i ddatblygu systemau atgynhyrchiol, yn ffafrio datrysiadau naturiol yn hytrach na mewnbwn cemegol, o ganlyniad mae ganddo fferm sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar prin fel y sigl-i-gwt melyn a cholomennod mair. Dywedodd Lyn, “Mae’n anhygoel gweld sut mae’r niferoedd â’r amrywiaeth o rywogaethau o adar gwahanol, ysgyfarnogod a bywyd gwyllt eraill wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.”

Mae adeiladwaith a ffrwythlondeb y pridd wedi’u gwella drwy fras-drin y tir. Ers tair blynedd, nid ydym wedi defnyddio cnydau gorchudd, dydyn ni ddim wedi cyd blannu ffa’r gwanwyn a meillion (berseem) i sefydlogi nitrogen yn y pridd na chwistrellu pryfleiddiad. Dywedodd Richard, “Os edrychwch ar y ffordd yr oeddem yn tyfu rêp had olew bum mlynedd yn ôl, mae’n rhyfeddol. Mae cnwd OSR eleni yn edrych yr un mor dda â’r gorffennol, ond rydym yn ei dyfu mewn dull gwbl wahanol. Mae cyd blannu cnydau fel gwenith yr hydd, ffacbys a ffa’r gwanwyn, i weld wedi lleihau’r nifer problemus o fath penodol o chwilen (flea beetle) ac mae ymylon o laswellt gyda stribedi â chymysg o flodau gwyllt wedi adfer pryfed ysglyfaeth buddiol. Yn ddiweddar rydym wedi caniatáu i’n gwrychoedd dyfu yn lletach ac yn uwch, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ar y cyd a’r gwelliannau i ymylon y caeau.”

Mae’r adar hefyd wedi elwa o dir hela ffesant y fferm sydd wedi ariannu bwydo yn ystod y gaeaf, rheoli ysglyfaeth a chymysgeddau cnydau gêm, gan gynnwys blodau’r haul, ffa’r gwanwyn, bresych deiliog y ciper, gwenith yr hydd, millet a phacelia. Y busnes sy’n talu am y mesurau amgylcheddol eraill, gan fod Richard yn credu bod opsiynau amaeth-amgylchedd Glastir yn rhy gyfyngol. Yn ei farn ef, mae’n hanfodol bod cynlluniau’n hyblyg ac yn cyd- fynd â’r gweithrediadau ffermio. Dywedodd, “Tynnodd y swyddogion prosiect a gafodd eu clustnodi i ni, hanner o’r hyn yr oeddem eisiau ei roi i mewn. Roedden ni’n mynd i fod dan anfantais ac yn waeth ein byd yn ariannol, felly fe wnaethon ni benderfynu peidio â mynd i mewn i’r cynllun a gwneud yr hyn roedden ni’n teimlo oedd y peth iawn.”

Mae Richard a Lyn wedi gwahodd gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi i ddod i weld eu gwaith cadwraeth integredig yn uniongyrchol, yn y gobaith y bydd cynlluniau yn y dyfodol yn fwy cyfeillgar i ffermio ac yn hyfyw yn ariannol. Dywedodd Richard, “Rydym yn treialu pethau ar lawr gwlad er mwyn dangos beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Byddwn wrth fy modd yn gwneud yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn Sealands dros y fferm gyfan, ond os yw Llywodraeth Cymru am gyflwyno hyn ar draws y wlad, bydd yn rhaid iddynt dalu amdano.”

Gan edrych i’r dyfodol, hoffai Richard a Lyn gydweithio â ffermwyr eraill, gan gysylltu coetiroedd a chynefinoedd eraill. Dywedodd Richard, “Rwy’n credu y byddai gan lawer o’n cymdogion ddiddordeb, felly gobeithio y byddai gan unrhyw gynllun yn y dyfodol gyllid ar gyfer hwyluso Clwstwr Ffermwyr.”