Dafydd Wynne Finch a Carwyn Rhys Davies

Magwyd Dafydd Wynne Finch ar fferm Cefnamwlch ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn ger Tudweiliog. Cymerodd y busnes ffermio drosodd 18 mlynedd yn ôl a’i droi o fod yn fferm cig eidion a defaid i fod yn fferm laeth, sy’n cynhyrchu llaeth o laswellt pori ar gyfer gwneud caws.

Dywedodd Dafydd, “Ar hyn o bryd mae’r caeau hyn yn cael eu pori’n ddwys ac mae’r cyfan yn ymwneud â’r glaswellt rhyg ungnwd a’r gwartheg, dydyn ni ddim yn gadael llawer o le i fyd natur. Hoffem newid hyn tra hefyd yn cynnal system ffermio gynhyrchiol a phroffidiol. Byddwn yn gadael i’r glaswellt aeddfedu a gwreiddio yn ddyfnach wrth barhau i gynnal cymhareb dda o ran y ddeilen a’r coesyn. Fel ffermwyr, rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu bwyd, ond rwy’n credu ein bod angen gwneud mwy na hynny yn unig.”

Caiff Cefnamwlch ei redeg ar sail ffermio cyfranddaliad gyda Carwyn Davies sy’n berchen canran o’r gwartheg Jersey. Mae Carwyn wedi ymrwymo’n llwyr i’r newid i ffermio adfywiol ond mae’n derbyn y bydd heriau. Dywedodd, “Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn newid oherwydd mae’r mewnbynnau yn cynyddu pob blwyddyn, ac mae’r effaith ar y blaned yn bwysig. Pan yr ydym yn pori’r gwyndwn llysieuol, mae’n rhoi hwb go iawn i mi wrth weld yr holl bryfaid ac adar o’i gymharu â’r cae drws nesaf, ble does dim. Dydw i erioed wedi edrych ar ochr natur o bethau o’r blaen, ond mae wir wedi agor fy llygaid. Petawn ni yn gallu bod yn hunangynhaliol, yn broffidiol ac yn gallu gwarchod yr amgylchedd byddwn yn llwyddo i gyrraedd pob nod.”

Yn ogystal ag edrych ar ôl iechyd y ffermdir, mae Dafydd yn awyddus i wella’r coetir hefyd. Mae wedi cychwyn system reoli newydd (iddo ef) o’r enw Coedwigaeth Gorchudd Parhaol, a olygai yn lle torri a chwympo coed un rhywogaeth benodol o un oedran, anogir tyfu coed o bob math ac oedran. Yn y dyfodol bydd ychydig o goed yn cael eu cynhaeafu’n ddetholus pob pum mlynedd ar sail ychydig yn aml. Dywedodd, “Byddwn yn cyfoethogi’r coed Sbriwsen Sitka presennol gydag amrywogaethau fel y Ffynidwydden Douglas, Cedrwydden Goch, Pinwydden yr Alban a dros amser, yn gadael i’r goedwig aildyfu’n naturiol. Mae’n gofyn am lefel uchel o sgiliau rheoli, felly rwy’n gobeithio ein bod yn barod.”