Skip to content

Gareth Wyn Jones

Yn 2006 sefydlodd Gareth Wyn Jones a 22 o ffermwyr defaid cyfagos iddo ym mynyddoedd y Carneddau y gymdeithas bori gyntaf erioed yn y DU gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri, yr UE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Y syniad oedd addasu nifer y defaid ar y bryn gan gadw cadwraeth mewn cof er mwyn rhoi cyfle i gynefinoedd a bywyd gwyllt y tir uchel i adfer. Mae cadw heidiau oddi ar y mynyddoedd yn y gaeaf wedi arwain at welliant enfawr i’r mawndiroedd, ei fioamrywiaeth a faint o garbon y gall ei amsugno. Ond nid dim ond gorbori sy’n cael effaith negyddol, roedd rhai ardaloedd heb eu pori yn llawn wedi gordyfu. Mae gwartheg, defaid a merlod y Carneddau a reolir gan y ffermwyr, yn chwarae rhan bwysig yn iechyd y pridd, gan adfywio planhigion prin a chynyddu bywyd pryfed sy’n hanfodol i gynnal poblogaethau adar gan gynnwys y frân goesgoch prin. Dywedodd Gareth, fferm Tyn Llwyfan, ger Llanfairfechan, Gwynedd, “Buaswn yn croesawu gweinidogion Llywodraeth Cymru i ymweld â’r Carneddau, er mwyn gweld bod y cynefinoedd wedi newid er gwell, a sut rydym yn rheoli gwahanol ardaloedd, ac yn penderfynu bod digon o anifeiliaid pori mewn un llecyn neu ychydig yn ormod o ddefaid ar lecyn arall.”

Y ogystal â gwelliannau i gynefinoedd, mae’r gymdeithas pori yn ariannu’r gwaith o reoli’r llwynogod ar y mynydd, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr ysgyfarnogod ac adar prin sy’n nythu ar y ddaear, fel y gylfinir a’r rugiar ddu.

Credai Gareth er mwyn i gynlluniau amaeth-amgylcheddol weithio yn y dyfodol, ei bod yn hanfodol bod ffermwyr yn cael iawndal am golli incwm a bod polisïau yn cymryd i ystyried y ffaith bod pob fferm yn wahanol. Mae’n angerddol bod gan dda byw rhan hanfodol i’w chwarae o hyd o ran sicrhau dau ganlyniad a ddaw law yn llaw, o ran cynhyrchu bwyd a chefn gwlad iachach. Dywedodd, “Mae llawer o bwysau gan amgylcheddwyr i atal ffermio da byw ac rwy’n credu ei fod yn anghywir. Mae gwartheg yn flaenoriaeth i iechyd a ffrwythlondeb ein pridd yn ogystal â rhoi protein o’r ansawdd gorau i ni, ac o ddefaid mae gwlân yn fonws y dylem fod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd ohono.”

Ei neges i lunwyr polisi yw gwrando ar y Gweithwyr Cadwraethol ar lawr gwlad. Dywedodd, “Siaradwch â ffermwyr yn unigol er mwyn darganfod y ffordd orau i wario arian trethdalwyr i ddiogelu’r amgylchedd a chynhyrchu bwyd fforddiadwy. Rydym ar drobwynt anferthol, mae am fod yn anodd, ond mae’n rhaid ei wneud yn iawn.”