Prosiectau

Mae GWCT Cymru yn ymwneud â nifer o brosiectau Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ledled y wlad. Egwyddor y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) yw cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa’r dirwedd sy’n darparu atebion sy’n seiliedig ar natur i wella gwydnwch ein hecosystemau mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau manteision i fusnesau fferm a lles cymunedau gwledig.

Mae partneriaeth SMS GWCT Cymru yn cynnwys:

SMS Bro Cors Caron, Ceredigion

Mae ardal y prosiect yn ffinio â phen gogledd-ddwyreiniol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron sy’n 1,976 erw, sy’n rhan o’r gyforgors fwyaf ar dir isel ym Mhrydain. Drwy fabwysiadu dull Clwstwr Ffermwyr GWCT, mae mesurau cadwraeth wedi’u rhoi ar waith ar draws wyth fferm er mwyn gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth leol a gwella ansawdd y dŵr ac iechyd y pridd wrth gynnal mentrau ffermio cynhyrchiol a phroffidiol.

SMS Dyffryn Camlad, Powys

Clwstwr Ffermwyr o 18 ffarm yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd y pridd, ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth. Mae un o boblogaethau olaf y gylfinir ar dir isel Cymru yn yr ardal hon. Mae’r prosiect yn gysylltiedig â menter cadwraeth yr aderyn hirgoes, Gwlad y Gylfinir, sy’n gobeithio gwrthdroi’r dirywiad yn eu niferoedd drwy egwyddor stôl tair coes GWCT sef creu cynefinoedd, argaeledd bwyd a rheoli ysglyfaethwyr.

Menter Adar Ffermdir Cymru, Gwynedd a Sir Ddinbych

Prosiect tair blynedd Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru a arweinir gan GWCT Cymru, wedi ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru. Nod y fenter yw dangos sut y gellir rhoi hwb i’r nifer o adar ffermdir ar ffermydd da byw yng Nghrymu drwy gyfuniad o gnydau gorchudd hadau adar gwyllt a bwydo ychwanegol yn ystod y gaeaf.

Prosiect Bwydo yn ystod y Gaeaf, Ceredigion

Mae’r prosiect cydweithredol hwn gyda Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion yn annog ffermwyr i ddosbarthu bwyd ychwanegol ar gyfer adar yn ystod y gaeaf. Rhoddwyd Bwydwr Ffermdir Perdix i ddau-ddeg-pump fferm ledled y sir a 250kg o gymysg hadau adar yn rhodd gan Kings Crops, digon i barau hyd y bwlch llwglyd. Y nod oedd codi ymwybyddiaeth o werth y mesur hwn yn benodol mewn rhanbarthau ffermio da byw.

Cynnal Coetir, Dyffryn Elwy

Mewn partneriaeth â ffermwyr, Prifysgol John Moores Lerpwl ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, canolbwyntir y prosiect ar iechyd a gwydnwch coetir dros 23,500 hectar yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’n cynnwys astudio effaith poblogaethau hyddod brith a gwiwerod coch, drwy fonitro’r planhigyn ymledol Jac Y Neidiwr yn nalgylch yr Afon Elwy yn defnyddio drôn, a gwaith i ailgysylltu plant â’r coetiroedd a bywyd gwyllt.

Facebook @GWCTCymru

Facebook Pagelike Widget