Trefnai GWCT Cymru amryw o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle i rwydweithio ag unigolion o’r un meddylfryd i rannu gwybodaeth
a syniadau arloesol, trafod goblygiadau ac ymarferoldeb Polisi Llywodraeth Cymru a darganfod arferion rheoli newydd.
Cliciwch yma i weld digwyddiadau sydd i ddod yng Nghymru >
Roedd digwyddiadau 2021-2022 yn cynnwys
“Pwysigrwydd Iechyd y Pridd” yn Fferm Castle Hill ger Aberystwyth
Digwyddiad ar y fferm, gyda phrif siaradwyr, sesiwn cwestiwn ac ateb a thaith o amgylch y fferm, yn edrych ar bori mewn cylchdro fel system i reoli defaid a gwartheg cig eidion. Roedd y themâu a gafodd eu trafod yn cynnwys amaethyddiaeth atgynhyrchiol, iechyd y pridd, compostio tail a pholisi.
“Teithiau cerdded o amgylch y fferm” yn Fferm Sealands, Bro Morgannwg a Fferm Salisbury, Casnewydd
Roedd y ddau ddigwyddiad yn arddangos ffermio a chadwraeth yn gweithio law yn llaw. Fferm âr organig oedd y cyntaf, sydd wedi sicrhau ffermio carbon niwtral yn defnyddio gweddillion treuliad anaerobig mewn ffurf hylif, cnydau gorchudd a bras-drin y tir. Roedd yr ail ddigwyddiad ar fferm gig eidion a gwartheg pedigri, yn canolbwyntio ar reoli cynefinoedd ac ysglyfaethwyr ar gyfer bywyd gwyllt yn unol â dull “stôl tair coes” GWCT.
“Rhagdybiaethau Heriol”, Ystâd y Rhug, Sir Ddinbych
Drwy wahoddiad caredig yr Arglwydd Niwbwrch, canolbwyntiodd y digwyddiad hwn ar yr heriau o reoli bywyd gwyllt. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Keith Offord, adaregydd a ffotograffydd bywyd gwyllt, a David Pooler ciper ar Ystâd y Rhug. Roedd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, trafodaeth banel a thaith gerdded tywysiedig bywyd gwyllt o amgylch yr ystâd, a derbyniodd y digwyddiad ganmoliaeth am ddod â phobl o wahanol safbwyntiau polisi at ei gilydd.
Digwyddiadau “Cyfrif Mawr Adar Ffermdir”
Er mwyn annog ffermwyr i gymryd rhan yng Nghyfrif Mawr Adar Ffermdir, trefnwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled Cymru ynghyd â gweminarau ar y cyd â Nature Friendly Farming Network (NFFN)
a FUW, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth am yr arolwg. Roedd y digwyddiadau ar y fferm yn cynnwys tips i ffermwyr sut i adnabod rhywogaethau adar yn y maes.
“Trosolwg o Brosiect Bwydwyr Ffermdir Ceredigion” Fferm Penrhiw, Llandysul Gwahoddwyd ffermwyr i gyflwyniad ynglŷn â chanfyddiadau a chanlyniadau’r prosiect. Yn ogystal â GWCT Cymru roedd siaradwyr o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion a Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru. Dilynwyd y cyflwyniadau gyda thaith gerdded o amgylch y fferm a thrafodaeth.