Peter Loxdale

Peter Loxdale

Mae Peter Loxdale yn rhedeg Fferm Castle Hill ger Aberystwyth gyda’i dad Patrick. Yn 2008, trawsnewidiwyd ffermio cig eidion a defaid yn organig, ac ers hynny, wedi symud at ddull atgynhyrchiol cynyddol.

Fel rhan o hyn, maent wedi gosod ystorfa carthion da byw gyda chymorth gan grant o’r llywodraeth er mwyn gwneud defnydd gwell o’u tail buarth. Cyn hynny, roedd yn cael ei gadw mewn pentyrrau ar y caeau, ond dros y gaeaf roedd glaw yn tynnu llawr o’r maeth allan, ac roedd yn cymryd amser hir i ddadelfennu. Mae’r strwythur concrid yn llochesu’r tail ac yn caniatáu iddo gael ei droi pob pythefnos. Mae’r system yma yn sicrhau bod gwellt drud yn cael ei ddefnyddio mewn modd mwy effeithiol, gan ei fod wedi ei gompostio yn dda gyda’r tail ac yn dychwelyd deunydd organig i’r pridd.

Dywedodd Patrick, “O fewn 12 wythnos mae wedi ei gompostio ddigon i’w wasgaru ar y caeau a chaiff y tail ei amsugno yn gyflymach. Mae’n rhaid bod hyn yn golygu ei fod yn gynnyrch da a bod y pridd yn iach oherwydd bod pryfed genwair i’w gweld ynddo. Mae’r broses amsugno sydyn yn galluogi i ni ei ddefnyddio mewn modd tebyg i wrtaith artiffisial drwy roi ychydig yn aml rhwng toriadau i’r silwair.”

Newid mawr arall fu cyflwyno pori cylchdro dwys o laswellt amrywiol lle mae dwyseddau uchel o stoc yn cael eu symud o gwmpas yn fwy rheolaidd, gan roi cyfnodau adfer hirach i’r glaswellt. O ganlyniad i’r dull hwn wedi gwelir cynnydd enfawr mewn cynnyrch, sy’n bwysig i system organig lle na chaniateir gwrtaith artiffisial. Mae’r cynnydd yn y cynnyrch o ganlyniad i’r porthiant wedi caniatáu cynnydd yn y niferoedd o dda byw, a ddylai, yn ei dro, weld mwy o refeniw. Mewn cylchdro nodweddiadol, symudir defaid bob deuddydd.

Dywedodd Peter, “Os rhowch chi chwe diwrnod iddynt mewn un llecyn, byddant wedi bwyta’r gwair o ansawdd gorau yn y deuddydd cyntaf ac yna treulio pedwar diwrnod yn bwyta’r gweddill. Drwy rannu’r un llecyn, er enghraifft, yn dair rhan maent yn bwyta glaswellt o ansawdd gwell yn fwy rheolaidd ac nid ydynt yn ei rwystro drwy gerdded o un pen i’r llall. Yn ystod yr ail ddiwrnod mae’n rhaid iddynt bori drwy’r gweddill ac yna maen nhw’n cael eu symud ymlaen. Gwnaethom hefyd newid i gnydau pori gohiriedig yn hytrach na chnydau porthiant yn y gaeaf sydd wedi lleihau costau ac yn golygu bod y defaid yn dod i mewn i’r sied cyn ŵyna.”

Mae gan Peter systemau ffensio modern sy’n hawdd eu gosod allan, sy’n ei alluogi i osod llinell ffens 220m mewn pum munud. Mae ganddo hefyd gafnau llusgo Kiwitech a gaiff eu llenwi gan systemau ffynnon, a phwmp solar, fel bod modd iddo symud y dŵr i’r defaid yn hytrach nag i’r gwrthwyneb. Dywedodd: “Mae ein gobeithion ar gyfer dyfodol y fferm yn cael ei sbarduno gan y gallu i wella’r pridd a’r amgylchedd. Drwy wneud hynny rydym hefyd yn gwella hunangynhaliaeth a phroffidioldeb y fferm, sy’n gynyddol bwysig gyda gostyngiad mewn cymorthdaliadau a chynlluniau yn ogystal â ffactorau byd-eang y tu hwnt i’n rheolaeth.”