Skip to content

Diweddariad Myfyriwr – Mawrth i Ebrill 2025

“Gan fod y digwyddiad ar ddydd Sul, croesawyd teuluoedd i’r digwyddiad, felly ochr yn ochr â’r saethu clai a’r raffl bum yn arwain ar weithgareddau celf a chrefft…”

DIWRNOD CLAI CEREDIGION

“Ar yr 16eg o Fawrth bum yn gweithio yn Niwrnod Clai Ceredigion yn Dyffryn Dyfi gydag Alaw Ceris a Logan Crimp (Swyddog Amaeth a Chadwraeth). Roedd hwn yn ddigwyddiad saethu clai a drefnwyd gan Bwyllgor Codi Arian GWCT Ceredigion i godi arian ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gêm a Bywyd Gwyllt yng Nghymru.”

“Gan fod y digwyddiad ar ddydd Sul, croesawyd teuluoedd i’r digwyddiad, felly ochr yn ochr â’r saethu clai a’r raffl bum yn arwain ar weithgareddau celf a chrefft, gan greu darnau wedi’u gwneud o getris gwn wedi’u hailgylchu.”

“Crëwyd dau ddarn mosaig mawr gyda chymorth mynychwyr, a wnaed trwy ludo cetris gwn saethu yn sefyll ar fwrdd pren gyda delwedd fel canllaw. Roedd bwrdd wedi’i osod ar gyfer gwneud blodau cetris a oedd yn cynnwys torri a phlygu’r cetris er mwyn ei agor allan a’i ludo ar ddarn o helyg gan greu’r blodyn. Bum hefyd yn creu bathodynnau cetris, a oedd yn cynnwys lapio llinyn o amgylch pin diogelwch sy’n sownd i getris gwag, cyn ei lenwi â glud poeth a rhoi plu yn y gwagle. Gweler luniau gwych o’r campweithiau yn y lluniau isod.”

DOD O HYD I’R GYLFINIR

“Treuliwyd fis Ebrill yn chwilota am y gylfinir er mwyn helpu Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru. Gan gydweithio â Katie yn Ardal 9 o Bwysigrwydd i’r Gylfinir, bum yn cerdded nifer o lwybrau gwahanol yn chwilio am arwyddion neu sŵn y gylfinir. Roeddwn i hefyd yn cadw llygaid am unrhyw ysglyfaeth, ac aflonyddu a allai effeithio’r gylfinir o fewn yr ardaloedd, ynghyd â chymryd nodyn o’r cynefinoedd o fewn yr ardaloedd ac os oes posibilrwydd am nyth gylfinir. Fel mae’r tymor yn parhau, bydd fy rôl yn newid i fonitro y parau sy’n bridio, ond am y tro rwy’n canolbwyntio ar leoli’r parau presennol a dod o hyd i rai newydd.”

Mae Sir Drefaldwyn yn ardal fawr, ac felly mae’n anodd cynnwys pob cornel – os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, nid yw’n rhyw hwyr, gallwch ddarganfod mwy yma…

Yn ogystal – os ydych chi wedi clywed neu weld gylfinir yn eich ardal leol yn Sir Drefaldwyn, gadewch i ni wybod yma…

MIS NESAF

Ym mis Mai, byddaf yn parhau i chwilio am barau o’r gylfinir, ynghyd â dechrau casglu data ar gyfer fy nhraethawd hir – hefyd yn ymwneud â’r gylfinir! Byddaf hefyd yn mynychu digwyddiadau fel taith maes â myfyrwyr ail flwyddyn o Brifysgol Bangor, gan ymweld â fferm ar Ynys Môn…

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *