Cyfrif Mawr Adar Ffermdir 2024

Beth yw Cyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT?

Mae Cyfrif Mawr Adar Ffermdir yn ymgyrch bwysig sy’n cofnodi’r effaith y mae cynlluniau cadwraethol yn ei gael ar adar ffermdir . Rydym angen eich help i warchod rhywogaethau o adar sy’n byw ar dir fferm a sicrhau eu bod yn goroesi. Yn syml, treuliwch 30 munud yn cofnodi’r adar a welwch ar eich fferm a chyflwyno’ch canlyniadau ar-lein i ni.

Er mwyn cymryd rhan…dilynwch y 3 cam syml hyn…

CAM 1 – Taflen Gofnodi

Lawrlwytho’r Taflen Gofnodi Cyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT a dechrau cofnodi!

LAWRLWYTHO TAFLEN GOFNODI (Dwyieithog)

CAM 2 – Cyfri’r adar!

Pryd?

Rhwng 2 a 18 Chwefror 2024

Ble?

Ar eich fferm!

Gallwch ddewis eich lleoliad, byddai rhywle agored sy’n eich galluogi i weld tua 2 hectar o’r fferm yn ddelfrydol ar gyfer gwneud y cyfrif. 

TOP TIP – Er mwyn gweld y nifer fwyaf o adar, rydym yn argymell y dylai’r safle gynnwys neu yn agos at ardal o hadau cymysg gwyllt neu gêm, neu rhywle ble mae bwydo ychwanegol yn cael ei gynnig.

How?

Cwblhau’r Daflen Gofnodi yr ydych wedi ei lawrlwytho yng ngham 1

LAWRLWYTHO TAFLEN GOFNODI (Dwyieithog)

Bydd gofyn i chi nodi’r mathau o gynefinoedd a chnydau sydd ar y safle ac yn agos i’r safle, er mwyn darparu rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â lleoliad y cyfrif

Am ba mor hir ydw i’n cyfri?

Treuliwch 30 munud yn cofnodi’r rhywogaethau o adar yr ydych cyn ei gweld mewn un rhan benodol o’r fferm.

Pa amser o’r dydd sydd orau?

Yn ddelfrydol, dylid cyfri yn ystod golau cyntaf y dydd, gan mai dyma pryd mae’r adar fwyaf prysur. Fodd bynnag, beth sy’n bwysig ydi’ch bod yn cymryd rhan, felly dylai’r amser eich siwtio chi.

CAM 3 – Cyflwyno eich canlyniadau ar-lein

Gallwch gyflwyno eich canlyniadau yn sydyn a rhwydd ar-lein unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau o’r 2 Chwefror 2024.

CYFLWYNO CANLYNIADAU

Unwaith eto eleni, rydym yn defnyddio NotaZone llwyfan arolwg sydd wedi ei ddatblygu gan Agrantec i gasglu a chyfri’r canlyniadau. Mae’r system yn ddiogel a bydd eich manylion yn cael eu cadw yn gyfrinachol.

Os hoffech chi bostio eich canlyniadau i ni, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i bostio gyda’r canlyniadau i:

BFBC
Game & Wildlife Conservation Trust
Burgate Manor
Fordingbridge
SP6 1EF

Dogfennau defnyddiol

Taflen Gofnodi Cyfrif Mawr Adar Ffermdir (Dwyieithog English/Welsh)

AM DDIM – GWCT Canllaw Adnabod Adar Ffermdir (Cymraeg)

AM DDIM – BFBC spotters guide (English)

Canlyniadau’r blynyddoedd blaenorol

Canlyniadau – Cyfrif Mawr Adar Ffermdir

DIOLCH AM GEFNOGI

CYFRIF MAWR ADAR FFERMDIR GWCT

Facebook @GWCTCymru

Facebook Pagelike Widget