Skip to content

Yr Iaith Gymraeg

Yr Iaith Gymraeg â’i bwysigrwydd i GWCT

Mae GWCT Cymru yn cydnabod pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg a’i effaith ar ein haelodau, ein cwsmeriaid, ein cyd-weithwyr a’r gymuned yn ehangach.

Rydym yn awyddus i annog siaradwyr Cymraeg (o bob gallu) i ddefnyddio’r iaith pan yn cysylltu â ni, darllen am ein gwaith neu wrth fynychu ein digwyddiadau.

Mae hanner tîm GWCT Cymru yn siaradwyr Cymraeg iaith cyntaf Welsh, a’r hanner arall yn dysgu Cymraeg (ac yn llwyddo wrth wneud hynny!)

Iaith Gwaith (Work Language badge)

‘Cynnig Cymraeg’

Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun neud bolisi cryf ar gyfer datblygu’r Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth am y ‘Cynnig Cymraeg’ ewch i wefan Comisiynydd y Cymraeg

Gwobrwyd y ‘Cynnig Cymraeg’ i GWCT Cymru yn Gorffennaf 2023 gan Gomisynydd y Gymraeg, wedi iddynt cymeradwyro ein Cynllun Datblygu Iaith Gymraeg a chyflwyno’r acolâd hwn i ni yn Sioe Frenhinol 2023.

Cynnig Cymraeg ‘GWCT Cymru’

Croesawn unrhyw i gysylltu â ni drwy’r Gymraeg neu Saesneg, drwy ffonio, ebostio neu wyneb i wyneb, rydym yn cynnig yr un lefel o wasanaeth yn y Gymraeg a Saesneg:

  • Mae ein staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith er mwyn i chi eu hadnabod yn hwylus yn ein digwyddiadau
  • Mae ein gwefan GWCT Cymru yn ddwyieithog
  • Mae croeso i chi gyfrannu i’n digwyddiadau yn y Gymraeg
  • Rydym yn defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol bob tro

Os hoffech chi glwyed mwy am ein Cynnig Cymraeg, neu ag awgrymiadau sut y gallwn wella ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg cysylltwch â ni

Staff GWCT Cymru yn gwisgo’u bathodyn a chadwyn gwaith â balchder