Mae Cysylltu Gylfinir Cymru wedi bod allan yn monitro gweithgarwch y Gylfinir Ewrasiaidd yn ICA 9 (Sir Drefaldwyn a Gogledd Faesyfed), ac rydym yn gyffrous i adrodd bod nythod cyntaf y tymor wedi’u darganfod. Hyd yn hyn, mae 12 nyth wedi’u lleoli, gyda nifer o barau’n dychwelyd i hawlio eu tiriogaethau o’r llynedd.
Er mwyn helpu i ddiogelu’r nythod bregus hyn, mae ffensys trydan yn cael eu gosod ar draws safleoedd allweddol. Mae hyn yn helpu i leihau’r perygl o ysglyfaethu gan famaliaid ac yn lleihau aflonyddwch gan dda byw. Mae’r nythod hefyd yn cael eu monitro drwy ddefnyddio camerâu wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd i sicrhau nad oes aflonyddwch pellach i’r adar.
Fodd bynnag, mae’r tymor hwn eisoes yn profi’n un heriol. Mae’r tywydd poeth a sych parhaus wedi gadael y tir yn llawer sychach nag mewn blynyddoedd blaenorol, gan gyfyngu ar dwf y glaswellt ac yn lleihau argaeledd gorchudd addas ar gyfer nythu. Mae llawer o barau’n gorfod crwydro’n ehangach i chwilio am fwyd, gan amlygu’r pwysau ychwanegol ar yr adar eiconig hyn.




“Mae’n galonogol ac yn bryderus ar yr un pryd,” meddai Katie, Swyddog Gylfinir a Phobl ar gyfer ICA 9. “Rydyn ni wrth ein boddau’n gweld cymaint o barau’n dychwelyd ac nythod cynnar, ond mae’r amodau sych yn peri pryder gwirioneddol. Mae ein tîm yn gweithio’n galed i roi’r cyfle gorau posibl i’r adar hyn fridio’n llwyddiannus.”
Wrth i ni symud ymhellach i mewn i’r tymor bridio, rydyn ni’n annog pawb i gadw llygad—a chlust—am y gylfinir. Os ydych chi’n gweld neu’n clywed un mewn unrhyw un o ardaloedd Prosiect Cysylltu Gyflinir Cymru—ICA 5 (Mynyddoedd Deheuol Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy), ICA 9 (Sir Drefaldwyn a Gogledd Faesyfed), neu ICA 12 (Dalgylch Wysg a Llyn Syfaddan)—cofiwch roi gwybod i’r tîm. Yn ogystal, os oes gennych gylfinir ar eich tir ac rydych yn bwriadu gwneud unrhyw reolaeth megis torri silwair neu aredig ac hoffech i aelod o’r tîm wirio’r ardal am unrhyw arwyddion ymddygiadol o nythod neu gywion, cysylltwch â ni.
I gael rhagor o wybodaeth neu i roi gwybod am gylfinir, ewch i: Cysylltu Gylfinir Cymru – GWCT Cymru.
