Nick Von Westenholz yn ymweld â Chymru
Croesawodd tîm GWCT Cymru Nick Von Westenholz, Prif Swyddog Gweithredol newydd GWCT, i Sir Drefaldwyn ddiwedd mis Mawrth, wrth i Nick ymweld â holl orsafoedd allanol GWCT i glywed am a phrofi blas o’r holl waith sy’n cael ei wneud gan y timau amrywiol ar draws yr ymddiriedolaeth. Cyfle iddo gael cipolwg ar y ffordd unigryw y mae’r timau rhanbarthol yn gweithio.
Treuliodd Nick ddiwrnod gyda’r tîm. Yn ystod y bore cyflwynwyd blas o’r gwaith sydd ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd i Nick, o Brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru i ddigwyddiadau codi arian, a gwaith drôn i bolisi, yn ogystal â phwysigrwydd yr Iaith Gymraeg yn yr holl waith. Llawer i’w gymryd i mewn wrth i’r tîm bach o 7 rannu’r holl waith a gwblhawyd hyd yma ac ar y gorwel ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Tynnodd Owen Williams, Cadeirydd GWCT Cymru, sylw at y gwaith caled y mae’r tîm yn ei wneud ar lawr gwlad yng Nghymru, gan ategu mai ond ers 7 mlynedd mae’r tîm wedi bodoli yng Nghymru.



Ar ôl cinio, daeth Nick ar y safle i weld y drôn ar waith, gan ymweld â safle nythu posibl ar gyfer y gylfinir. Nid oedd yn hir cyn i’r tîm weld gylfinir, ac wedi hynny roedd y drôn yn gallu dod o hyd iddo a thynnu llun ohono heb unrhyw aflonyddwch.
Diolch am ymweld â ni yma yng Nghymru Nick, edrychwn ymlaen at dy groesawu yn ôl eto’n fuan.