Skip to content

Nodyn cyn i chi fynd ati i dorri: Galwad gan y Gylfinir am Gefnogaeth i Ffermwyr yng Nghymru

Wrth i’r gwaith o dorri gwair a silwair fynd rhagddi ar draws Cymru, rydym yn estyn allan i ffermwyr i ofyn am eich help er mwyn gwarchod un o adar pwyaf eiconig a phrin Cymru, y Gylfinir Ewrasaidd.

Mae’r Gylfinir yn aml yn nythu mewn dolydd gwaith a chaeau silwair ar draws cefn gwlad Cymru, gan ddodwy eu hwyau yn uniongyrchol ar y llawr/ Mae eu nythod – a’r cywion sy’n dilyn – dan fygythiad mawr yn ystod y cyfnod torri. Gall colli ond rhai, gael effaith fawr ar boblogaethau lleol yng Nghymru.

Os ydych chi’n meddwl bod gylfinir o bosib yn nythu neu fagu cywion yn eich caeau, hoffem glywed gennych chi. Gallwch drefnu i rywun o’n tîm eich helpu i archwilio eich caeau cyn torri, ac mewn rhai achosion, bydd modd i ni ddefnyddio drôn thermol GWCT i archwilio’r caeau am nythod neu gywion cuddiedig.

Ble’n briodol, efallai bydd opsiwn am gefnogaeth ariannol o £265 fesul hectar am ohirio’r torri er mwyn diogelu’r gylfinir, gan helpu i gadw cydbwysedd rhwng cadwraeth a realiti ffermio yng Nghymru.

Beth i edrych allan amdano yn eich caeau:

· Adar yn galw yn uchel, yn enwedig swn chwibanu.

· Aderyn unigol yn codi o’r tir i hedfan o amgylch pan y cerdded tuag ati/ato – o bosib yn gadael nyth neu yn amddiffyn cywion.

· Ymddygiad cynhyrfus, yn cylchu neu alw pan yr ydych yn mynd yn agos.

· Cywion ar droed – bach, brown â chuddliw da.

Er mwyn dysgu mwy am y gylfinir a’u galwadau, ewch i Dudalen Addysg y Gylfinir.

Gall hyd yn oed sgwrs fer wneud gwahaniaeth mawr. Mae ein tîm wedi ei leoli ar draws tair ardal allweddol yng Nghymru fel rhan o brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru ac yn hapus i gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Er mwyn rhoi gwybod am ylfinir yr ydych wedi ei weld, boed yn nyth neu gyw, neu i holi’r tîm sy’n gweithio yn eich ardal i archwilio eich caeau neu i drafod gohirio torri gwair/silwair, cysylltwch â ni drwy ein gwefan: Cysylltu Gylfinir Cymru – GWCT Cymru.

Diolch i chi am helpu i roi dyfodol i’w gylfinir yng Nghymru.