Skip to content

Diwrnod Saethu I’r Ifanc 2025

Ar ôl digwyddiad llwyddiannus yn ‘Gwysaney Sporting Club Ltd’, hoffai GWCT Cymru Diolch I James Davies-Cooke unwaith eto nid yn unig am ein cynnwys yn y digwyddiad hwn, ond hefyd y cyfle I ni I gasglu rhoddion elusennol sy’n mynd tuag at wella bioamrywiaeth a’r tirwedd ar draws Cymru.

Er I’r saethu dechrau yng nghanol y glaw ym mrynau Sir y Fflint yn ffoddus cliriodd yr awyr a cafwyd haul am weddill y diwrnod. Roedd yn wahanol iawn i digwyddiad y llynedd, oherwydd bu i’r Saethwyr Ifanc saethu mewn niwl trwm ar draws y caeau.

Bu’n wych gweld  y pobl ifanc dan sylw yn fedrus a gofalus wrth saethu. Hefyd, roedd eraill a fynychodd y digwyddiad yn cymryd rhan gyfartal yn y diwrnod ac wedi cyfrannu ymhellach i’r teimlaid cryf o gymuned ac undod.

Roedd y profiad yn un fwy newydd i rai. Yn enwedig Rachel Grant, Myfyriwr newydd GWCT Cymru ar gyfer y flwyddyn 2025/26. Cyn mynychu’r digwyddiad ymwiliodd Rachel y manteision cymdeithasol, diwylliannol a’r buddion i fywyd gwyllt sy’n mynd llaw yn llaw efo saethu gêm. Dywedodd “Roedd o’n grêt i fynd y tu hwnt i ddarllen am y manteision ac i weld gweld yn uniongyrchol. Mae’r ymdeimlad  o gymuned a brofais  yn Gwasaney y diwrnod hwnnw yn fy atgoffa o sut mae cymunedau yr wyf i yn  ymwneud â hwy  yn fy helpu i a fy lles meddyliol.”

Ar ddiwedd y dydd daeth y grŵp  at ei gilydd i orffen gyda bwffe o fwydydd a gynhyrchir yn lleol, wedi’i weini gan y cogyddion talentog ar y safle.

“Diwrnod gwych arall wedi ei roi i ni  gan Gwysaney Sporting Club Ltd, nid yn unig yn creu cyfle i saethwyr ifanc ennyn profiad ond hefyd gyfrannu at waith cadwraethol yng Nghymru drwy codi arian hanfodol.”

Felly ar ôl dechrau gwych i’r tymor, mae’r tîm yn edrych ymlaen i fynychu ein digwyddiad nesaf yn Cefn Tilla ar 18 Medi.