Skip to content

GWCT Cymru Yn Sioe Môn 2025 – Blwyddyn Gyntaf Ardderchog

Eleni oedd y tro cyntaf I’r GWCT fynuchu Sioe Môn, a dwy ddiwrnod gwych gafon ni. Fel prif sioe amaethyddiol yng Ngogledd Cymru, mae’n dod a ffermwyr, rheolwyr tir, busnesau gweldig a’r gymuned ehangach ynghyd. Roedd yn gyfle gwych i ni rannu ein gwaith a chwrdd a chymaint o wynebau newydd.

Roedden ni wrth ein bodd yn arddangos y gwaith sy’n cael ei wneud ar Ynys Môn drwy’r prosiect Bioamrywiaeth Ffermdir, oedd yn bwynt trafod allweddol gyda llawer o’r ffermwyr ddaeth i’r stondin. Yn ogystal â hyn. Fe wnaethon ni ddangos ystod o brosiectau eraill ledled Cymru, gan roi cipolwg i ymwelwyr ar ehangder gwaith cadwraeth y GWCT.

Cafodd ein harddangosfa dron gryn dipyn o sylw, gan ein helpu i egluro sut rydyn ni’n defnyddio technoleg yn ein waith ymchwill. Fe ddaethon ni hefyd ag offer o brosiectau eraill, er mwyn rhoi teimlad go iawn o’r ochr ymarferol i’n gwaith.

I’r ymwelwyr iau, fe wnaethon ni sicrhau bod digon o bethau i’w cadw’n brysur. Roedd plant wrth eu bodd yn gwneud blodau o getris gwag ac roedd lluniau i’w lliwio ar gael hefyd, tra bod rhieni yn cymryd y cyfle i ddysgu mwy am y waith y GWCT.

Roedd ein stondin wedi’I lleoli y tu mewn i bafiliwn Jones Brothers, gan ein bod wedi disgwyl glaw ar o leiaf un o’r ddau ddiwrnod. Fodd bynnag, roedd hi’n hollol groes i hynny, gyda’r ddau ddiwrnod yn boeth ac yn heulog. Yn wir, roedd bod dan do yn fantais fawr gan fod y pafiliwn yn darparu lle oer a chyffyrddus i bopl ddod i sgwrsio a mwynhau ychydig o adfwiad ar y stondin.

Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb ddaeth i’n gweld dros y ddau ddiwrnod, doed i siarad am ffermio a chadwraeth, i glywed am ein prosiectau neu i adael i’r plant fwynhau’r gweithgareddau. Mae mynychu Sioe Môn am y tro cyntaf wedi bod yn brofiad gwych, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar yr holl gysylltiadau ac, yn y gobaith, gweld pawb yno eto flwyddyn nesaf.