Ar dydd Iau 21 ain Awst 2025, cafodd tîm GWCT Cymru ddiwrnod gwych yn Sioe Dinbych a Fflint. Mae pob amser yn uchafbwynt yn y calendr gwledig, ac roedd yn bleser cael bod yn rhan ohoni unwaith eto.
Roedd James Warrington, Logan Crimp a Julieanne Quinlan wrth law i sgwrsio gyda ymwelwyr am pob math o brosiectau cyffrous, o ddefnyddio dronau mewn cadwraeth i prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, yn ogystal â gwaith arall rydym yn ei wneud i gefnogi bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar ffermydd ledled Cymru.

Eleni, daethon ni â llu o weithgareddau ymarferol i blant (ac rhai oedolion brwdfrydig hefyd!). Cafodd ymwelwyr gynnig ar ‘hoopla’ pryfed, profi eu sgiliau yn bwydo fel y gylfinir, ac wrth gwrs, mwynhau ein gêm enwog Pwy wnaeth y sŵn ‘na?, lle mae angen pwyso gwyhanol fotymau i baru galwad anifeiliaid â’r llyn gywir. Roedd yn wych gweld cymaint o wênau a chystadleuaeth iach.


Cawsom sgyrsiau gwych gyda ymwelwyr o bob oed, ac roedd yn hyfryd weld cymaint o frwdfrydedd dros gadwraeth a rheolaeth cefn gwlad.
I orffen y cyfan, reoeddem wrth ein boddau o gael ein dyfarnu’r Ail safle am y stondin orau yn yr ardel gefn gwlad! Diolch enfawr i’r trefnwyr am ein cydnabod, ac i bawb a stopiodd i ddweud helo a rhannu eu brwdfydedd dros fywyd gwyllt gyda ni.
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn barod at sioe flwyddyn nesaf, gobeithio eith weld chi yno!
