Skip to content

Diweddariad y Myfyriwr – Hydref 2026

Wrth i mi ymgynefino â rôl myfyriwr ar leoliad, rwyf wedi cael sawl cyfle i ddod i adnabod y tîm yn well, dysgu sgiliau newydd a chymryd mwy o gyfrifoldeb drwy nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau.

Blas o Helwriaeth, Wrecsam:

Ar ddechrau mis Hydref, cefais y cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad pwyllgor yng Ngogledd-ddwyrain Cymru i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer GWCT Cymru. Roedd y noson yn cynnwys arddangosiad o sut y gellir paratoi helwriaeth gan ddefnyddio cig gwyllt cynaliadwy er mwyn creu pryd tri chwrs blasus.

Cefais helpu’r tîm drwy baratoi’r lleoliad, sgwrsio â gwesteion a thynnu ffotograffau. Rhoddodd y noson brofiad gwerthfawr a gwell dealltwriaeth imi o sut y gallwn gydbwyso cadwraeth a bwyd.

Ffeiriau Gyrfaoedd Aberystwyth a Chaerdydd:

Cefais y cyfle i fynychu ffeiriau gyrfaoedd yn Aberystwyth a Chaerdydd, lle siaradais â myfyrwyr am y GWCT, ein gwaith a’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig. Roedd yn braf clywed am eu diddordebau a rhannu gwybodaeth am ein cyfleoedd lleoliad.

Mae cael cyfleoedd i ledaenu’r gair am y GWCT a’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud wedi bod yn hynod werthfawr, ac mae’n rhoi boddhad mawr gweld cymaint o ddiddordeb gan bobl ifanc eraill.

Drwy gydol mis Hydref, rwyf wedi cefnogi’r tîm ar nifer o brosiectau, gan helpu lle bynnag y gallaf; er enghraifft, wrth baratoi ar gyfer dechrau prosiect y gylfinir yn y gwanwyn. Mae’r cyfleoedd hyn wedi fy ngalluogi i ddysgu sgiliau newydd a datblygu’r rhai sydd gennyf eisoes, gan gynnwys gwaith GIS, helpu gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu.