Skip to content

Diweddariad Myfyriwr – Mai 2025

“Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio â GWCT Cymru rwyf wedi penderfynu seilio fy nhraethawd hir ar brosiect a fydd yn helpu gwaith cadwraeth yn ymwneud â’r gylfinir”

TAITH MAES PRIFYSGOL BANGOR I YNYS MÔN

“Dechreuwyd fis Mai gyda thaith maes gyda myfyrwyr ail flwyddyn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Fferm Fferam ym Mharadwys Ynys Môn, un o’r pedwar fferm sy’n rhan o brosiect a ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Ynys Môn sy’n canolbwyntio ar wella bioamrywaieth drwy ymarferion ffermio cynaliadwy”.

“Logan Crimp, ein Swyddog Amaeth a Chadwraeth sy’n arwain ar y prosiect a fu’n arwain y daith maes o amgylch y fferm, gan egluro’r holl waith yn ymwneud â bwydo ychwanegol yn y gaeaf er budd adar ffermdir, technegau monitro, y dechnoleg sydd ynglwm yn ogystal â chanolbwyntio ar adnabod rhywogaethau.”

“Cafwyd hefyd sgwrs gan Laura Hough, Swyddog Prosiect o Mentor Môn, a oedd yn son am rôl llygod ddŵr ar dir fferm, gan son am yr argae, adfer y pwll y felin, rheoli llystyfiant o amgylch pyllau, a rheoli’r Minc Americanaidd.”

“Roedd yn wych gweld y myfyrwyr yn gofyn cwestiynau ac yn dysgu am yr elfennau gwahanol o’r fferm, a’r ffaith bod mwy o ran ecoleg i’w weld ar y fferm nag yr oedden nhw wedi ei dybio, gan fod mwy o wrych na’r hyn a feddylir.”

Lee Oliver yn trafod arolygo â drôn.
Logan yn sgwrsio am y bwcedi bwydo ychwanegol â’r camerau AI.

FFENSIO ER BUDD Y GYLFINIR

“Wrth i dymor y Gylfinir fynd rhagddi, darganfyddir mwy o nythod gan Katie Appleby a thîm Cysylltu Gylfinir Cymru. Mae angen monitro a diogelu’r holl nythod rhag ysglyfaeth, felly un o’r pethau mae modd i’r tîm ei wneud yw gosod ffens drydan 20m x 20m o amgylch y nyth. Gosodwyd nyth ffug gan Katie gyda gylfinir ffug, gan fy arwain drwy’r broses a oedd yn fy ngalluogi i ddeall y drefn a’r manylion technegol tu ôl i’r gwaith, yn enwedig er mwyn osgoi tarfu ar y gylfinir. Mae angen ei wneud mewn amser byr er mwyn lleihau’r posibilrwydd o darfu ar yr adar, felly mae cynnal senario ffug yn golygu fod modd i mi ymarfer y dechneg heb bwysau a chyfyngiadau amser.”

YMWELIAD YSGOL

“Ar ddydd Iau 8 Mai, ymunais â Katie Appleby, Swyddog Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, mewn ymweliad ag ysgol ym Mhowys. Gwyliais hi yn cyflwyno i ddau grŵp o blant, gan son am y gylfinir a’u pwysigrwydd. Helpais â nifer o weithgareddau gan gynnwys ‘bwyta fel gylfinir’ ble yr oedd plant yn defnyddio ‘chopsticks’ i efelychu pig y gylfinir yn tyllu trwy box o dywod neu bridd yn dod o hyf i bryfaid a fwydod ffug. Bum hefyd yn eu dysgu sut i ddefnyddio ysbienddrych er mwyn dod o hyd i nyth gylfinir ffug mewn cae.”

“Mae mor braf gweld y diddordeb sydd gan y genhedlaeth nesaf yn yr adar, a’u parodrwydd i ddysgu. Roeddynt yn gwrando yn astud ac yn gofyn nifer o gwestiynau diddorol”.

DOD O HYD I’R GYLFINIR

“Er mwyn cefnogi’r gwaith cadwraeth yn ymwneud â’r gylfinir, derbyniais nifer o fapiau gwahanol yn nodi ardaloedd i’w monitro. Buaswn yn dod o hyd i le addas i barcio fel bod modd i mi gerdded ar hyd llwybrau dynodedig drwy gaeau a oedd yn y mapiau er mwyn chwilio am y gylfinir neu nythod y gylfinir. Buaswn yn cychwyn yn gynnar yn y bore gyda box bwyd, ysbienddrych, cit cymorth cyntaf a dyfais llwybro GPS, er mwyn cerdded y llwybr yr oeddwn i wedi ei gynllunio a sicrhau fy mod yn dilyn y côd cefn gwlad wrth i mi archwilio caeau am arwyddion o’r gylfinir yn ogystal ag gwrando allan am eu galwad ar hyd y ffordd. Yn ystod yr arolygon roeddwn i hefyd yn cadw llygaid allan am arwydd o ysglyfaeth, unrhyw beth arall allai achosi aflonyddu neu gynefinoedd arall addas ar gyfer yr adar. Drwy wneud hynny os byddwn yn derbyn adroddiad fod gylfinir yn bresennol yn yr ardal, buasai modd i ni wybod o bosib ble allent nhw fod. Byddwn yn nodi unrhyw beth a welwn neu clywn ar ffurflen Epicollect a grewyd gan Katie er mwyn cadw nodyn o’r holl weithgareddau a wnaed gan y tîm a gwirfoddolwyr.”

Kaylee yn y maes yn edrych ym y gylfinir.

CASGLU DATA AR GYFER TRAETHAWD HIR

“Yn ystod fy nghyfnod yn gweithio â GWCT Cymru rwyf wedi penderfynu seilio fy nhraethawd hir ar brosiect a fydd yn helpu gwaith cadwraeth yn ymwneud â’r gylfinir. Rwyf wedi penderfynu ymchwilio i mewn i beth yw’r brif factor o ran aflonyddwch sy’n eiffeithio’r gylfinir sy’n bridio yn Sir Drefaldwyn. Ar hyn o bryd nid oes llawer o wybodaeth am hyn yn ardal Sir Drefaldwyn oni bai am y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud fel rhan o brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru. Credaf y bydd fy nhraethawd hir yn helpu i adnabod ffactorau allweddol ac atgyfnerthu’r hyn sydd eisoes wedi ei nodi ynglŷn a beth syd aflonyddu’r gylfinir”.

“Diwedd mis Mai bum yn ymweld o bell â nythod gylfinir ac yn eu monitro am gyfnodau penodol o amser, gan gofnodi’r aflonyddu, fel bod modd i mi ddychwelyd i’r brifysgol i gwblhau’r gwaith o ysgrifennu’r traethawd hir. Bydd fy ngwaith yn ccasglu data yn parhau i mewn i fis Mehefin wrth i ragor o nythod a pharau gael eu darganfod”.

Edrychwn ymlaen i glwyed mwy yn niweddariad nesaf Kaylee ddiwedd mis Mehefin!