Skip to content

Taro’r marc ar gyfer y Gylfinir!

‘Hyfforddiant saethu ar gyfer rheoli ysglyfaethu’

Fel rhan o’n prosiect ‘Cysylltu Gylfinir Cymru‘ rydym wedi bod yn cynnal hyfforddiant ‘Rheoli Ysglyfaethu’ ar gyfer ein holl swyddogion ysglyfaethu dan gontract / gwirfoddol. Dangosodd pawb a gymerodd ran yn yr hyfforddiant hwn y byddai hyfforddiant saethu yn ddefnyddiol iawn ac yn helpu gyda’u hymdrechion.

Mae hyn yn rhywbeth nad GWCT wedi’i wneud o’r blaen felly penderfynwyd dod â’r arbenigwyr i mewn i gynnal y cwrs, ac felly dyma Bradley Bourner a Charles Cooper yn camu i’r adwy. Bu Bradley yn saethwr cudd (sniper) yn y Morlu Brenhinol (Amdanom – Pro Sporting Solutions) ac wedi bod yn hela a rheoli ceirw drwy gydol ei fywyd. Ar hyn o bryd ef yw uwch-reolwr y gwaith o reoli’r ceirw ar ystâd fawr yn yr Alban. Mae Charles hefyd wedi hela e rheoli ceirw drwy gydol ei oes a hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau arbenigol saethu o bell, mor bell allan a 2 filltir!

Trwy ganiatâd caredig Harry Legge-Burke fe wnaethom gynnal y cwrs 2 ddiwrnod ar ystâd hardd Glan Wysg dros benwythnos 22-23 Mawrth, mewn tywydd ffafriol. Cymerodd 20 o gyfranogwyr ran yn y penwythnos a oedd yn cynnwys gwaith theori yn ymwneud ag ‘egwyddorion saethu’ yn y bore ac yna amser saethu yn y prynhawn.

Gadawodd pawb yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i saethu. Doedd un cyfranogwr yn benodol  erioed wedi saethu reifflau o’r blaen. Roedd wedi penderfynu mynychu’r cwrs oherwydd ei gwaith fel rhan o brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru, ac felly eisiau bod yn fwy gweithgar wrth fynd i’r afael â chadwraeth y Gylfinir (gydag un yn nythu ger ei thŷ yn y Bannau!). Mae hi bellach yn bwriadu gwneud cais am ei thrwydded ac wedi ymuno â chlwb gynnau lleol. 

Rydym yn gobeithio rhedeg y cwrs eto ym mis Tachwedd i uwch-sgilio grŵp arall o reolwyr Ysglyfaethu yr ydym yn gweithio gyda nhw.

www.gwct.wales/cy/events/