Cyfle gwerthfawr i wrando ar brofiadau ffermwyr mynydd Cymru
Croesawyd GWCT Cymru i ddigwyddiad Ffermio’r Ucheldir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni dydd Iau 12 Mehefin yn Fferm Hafod y Llan, Beddgelert. Achlysur pwysig a oedd yn dathlu rôl hanfodol ffermio mynydd tra’n cynnal cymunedau gwledig, bioamrywiaeth, ac ucheldiroedd Cymru.
Wedi’i drefnu a’i gynnal gan Bwyllgor Sir nodedig RWAS 2025 Sir Gaernarfon, daeth y digwyddiad â ffermwyr, rheolwyr tir, llunwyr polisi a chadwraethwyr ynghyd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermio ucheldir.
Yn ystod y dydd, cynhaliwyd dau seminar yn y brif babell ger stondin GWCT Cymru. Glyn Roberts cyn lywydd FUW oedd yn cadeirio’r ddwy drafodaeth, gyda chwestiynau i ddilyn gan y gynulleidfa.

Roedd y seminar gyntaf “Ffermio’r genhedlaeth nesaf: Arloesi, geneteg a dyfodol ucheldiroedd” yn cynnwys mewnwelediadau gan yr Athro Prysor Williams o Brifysgol Bangor, Dewi Jones, gweithredwr Innovis, ac Emma Jones, arbenigwr rheoli busnes a da byw.
Roedd yr ail seminar “Polisi, arfer da a chynhyrchiant: Ble mae ffermio mynydd yn mynd?” yn cynnwys siaradwyr, Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Herley Brown-Keech, arbenigwr ar laswelltir o gwmni Germinal, Dan Jones, ffermwr tenant i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru.
Ar draws y safle roedd llawer o stondinau gan gynnwys bwyd a diod, offer ffermio, iechyd a lles anifeiliaid, gwybodaeth am gnydau a mwy. Ynghyd â llawer o arddangosiadau a chystadlaethau gan gynnwys cŵn defaid, beirniadu stoc, Arddangosfa Cymdeithas Ceffylau Sir Gogledd Cymru, cystadleuaeth rhyng-golegol gyrru beiciau cwad a llawer mwy.
Roedd cyfle i ymwelwyr â stondin GWCT Cymru glywed mwy am ein gwaith ymchwil ar ecosystemau ucheldir, rheoli ysglyfaethwyr, ac effaith gadarnhaol arferion cadwraethol integredig. Roedd ein tîm wrth law i drafod prosiectau cyfredol yng Nghymru, gan gynnwys gwaith ar gadwraeth y gylfinir, a phwysigrwydd systemau ffermio sy’n cydbwyso cynhyrchu bwyd ag adferiad natur.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i wrando ar brofiadau ffermwyr mynydd Cymru, y mae eu profiad gyda’r tir yn hanfodol i lunio cynlluniau cyllido amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol. Wrth i’r sector lywio newidiadau i gynlluniau cymorth a thargedau amgylcheddol, mae GWCT Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ochr yn ochr â’r gymuned ffermio i sicrhau tirweddau gwydn sy’n gyfoethog o fywyd gwyllt ac yn gynhyrchiol ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Hoffem ddiolch i’r trefnwyr am ddigwyddiad gwych ac edrychwn ymlaen at barhau â’r sgyrsiau pwysig hyn ledled Cymru a thu hwnt.