Digwyddiad a ddaeth â’r egni a’r arloesedd o fewn cymuned ffermio Cymru at ei gilydd
Ar ddydd Gwener y 13eg o Fehefin, mynychodd tîm GWCT Cymru gynhadledd Da Byw 2025 yn Fferm Coed Coch, Dolwen ger Abergele, digwyddiad blaengar a ddaeth â ffermwyr, rheolwyr tir, ymchwilwyr a chadwraethwyr at ei gilydd i drafod dyfodol ffermio Cymru.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyfres o drafodaethau panel yn ymdrin â phynciau hanfodol yn amrywio o fagu da byw mewn modd cynaliadwy i olyniaeth ffermydd teuluol a dyfodol Amaethyddiaeth Cymru, gan wahodd trafodaeth o fewn y gynulleidfa a chymryd barn y bobl sy’n gweithio ar lawr gwlad.
Yn dilyn cinio parhaodd y rhaglen gyda chyflwyniad gan Micheal Blanche, gyda’i sgwrs ddiddorol yn lwyfan ar gyfer sesiynau’r prynhawn. Rhannwyd y cyfranogwyr yn bedwar grŵp llai a’u tywys ar daith o orsafoedd a oedd wedi’u gosod ar draws yr ystâd, pob un wedi’i gynnal gan arbenigwr yn eu maes.

Gorsaf 1 – Theori ar waith, dan arweiniad Dr Allen Williams o ‘Understanding AG’, ystyriodd yr orsaf hon defnyddio egwyddorion amaethyddiaeth adfywiol ar lawr gwlad.
Gorsaf 2 – Adeiladu pridd, trafododd Joel Williams o ‘Integrated Soils’ iechyd y pridd a rheoli maetholion, gan dynnu sylw at rai o’r ffyrdd ymarferol o wella a chynnal bywyd y pridd, tra’n rhedeg fferm broffidiol.
Gorsaf 3 – Cyfalaf Naturiol, a gynhaliwyd gan Dr Bill Hurditch o’r ‘Fifth Estate’ a Josh Heyneke o ‘Regenerate Outcomes’. Archwiliodd y sesiwn hon rôl cyfalaf naturiol mewn stiwardiaeth tir a darparu gwasanaethau ecosystemau.
Gorsaf 4 – Siwr o’ch rhifau, gyda Rhys Williams o Coed Coch Farms Ltd, a ddarparodd arweiniad ar gynllunio ariannol ffermydd a meincnodi i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar ddata.
Roedd stondin GWCT Cymru mewn lleoliad delfrydol wrth fynedfa’r babell lle cynhaliwyd y sgyrsiau panel, gan ganiatáu i’r tîm ymgysylltu ag ystod eang o fynychwyr drwy gydol y dydd. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i rannu gwybodaeth am ymchwil, gwaith cadwraethol a phrosiectau parhaus GWCT ledled Cymru.
Roedd yn fraint cymryd rhan mewn digwyddiad mor dda a ddaeth â’r egni a’r arloesedd o fewn cymuned ffermio Cymru at ei gilydd. Roedd tîm GWCT Cymru yn falch o gysylltu â chymaint o unigolion o’r un anian, cyfnewid syniadau a chyfrannu at y sgwrs ehangach ynghylch defnydd tir cynaliadwy.