Skip to content

Taith Faes Prifysgol Bangor

Ar 5 Tachwedd, arweiniodd tîm y GWCT daith faes ar gyfer myfyrwyr o Brifysgol Bangor er mwyn dysgu am y gylfinir a rhywogaethau eraill o adar sydd mewn perygl. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i gyflwyno gwaith y GWCT ac i amlygu pwysigrwydd gweithio ym maes cadwraeth.


Dechreuodd y diwrnod yn RSPB Conwy, lle cawsom gyfle i gyfarfod â’r myfyrwyr a chyflwyno’r Ymddiriedolaeth a’r prosiectau rydym yn ymwneud â nhw. Yna, rhoddodd aelod o’r RSPB gyflwyniad byr ar hanes y safle a’r rhywogaethau sy’n byw yno, megis y gylfinir, y goesgoch a’r gïach.


Wrth gerdded o amgylch y warchodfa, roedd yn ddiddorol trafod cadwraeth adar gyda’r myfyrwyr a phwysigrwydd gweithio ar brosiectau fel Gwlad y Gylfinir. Rhoddwyd tasg iddynt gofnodi nifer y rhywogaethau a welent, gyda gwobr i’r unigolyn a oedd wedi nodi’r nifer fwyaf o rywogaethau erbyn diwedd y dydd.


Gwnaethom aros mewn sawl man o amgylch y warchodfa i arsylwi ar yr adar, a rhoddodd pob aelod o’r tîm gyflwyniad byr am ei rôl a’r gwaith y mae’n ei wneud, megis arolygu a monitro, ynghyd â’r cyfleoedd y gall lleoliadau myfyrwyr eu cynnig a’r hwb y gallant ei roi i yrfa ym maes cadwraeth.


Ar ôl cerdded o amgylch y warchodfa a gweld nifer o rywogaethau adar, gan gynnwys gylfinirod, cafodd y myfyrwyr lawer o gyfleoedd i ofyn cwestiynau. Dysgon nhw ragor am adar y glannau, megis y gylfinir, a pham mae angen cymorth cadwraeth ar y rhywogaethau hyn.


Ar ôl cinio, symudom ymlaen i’r ail leoliad, Traeth Llanfairfechan. Mae Llanfairfechan yn cynnal poblogaeth arfordirol sylweddol o adar hirgoes y glannau, megis y gylfinir. Wrth gerdded ar hyd y promenâd, mwynheom arsylwi ar y gwahanol boblogaethau o adar ar hyd y traeth. Rhoddodd rhai aelodau o’r tîm gyflwyniad byr ar ymddygiad y gylfinir a’r gwaith rydym yn ei wneud drwy ein prosiect presennol yng Nghanolbarth Cymru.


Cerddom ymlaen at y forfa heli ar ddiwedd y promenâd, sy’n cynnwys caeau corsiog isel a phyllau bas, gan greu cynefin delfrydol sy’n denu amrywiaeth eang o adar. Yma gwelsom nifer o rywogaethau a ddaliodd ddiddordeb pawb, a rhoddodd rhai aelodau o’r tîm sgwrs am ymgysylltu â chymunedau gwledig a thirfeddianwyr, a phwysigrwydd hynny i gadwraeth cefn gwlad. Ar ddiwedd y dydd, cyfrifwyd rhestrau’r rhywogaethau a gofnodwyd, gyda’r nifer uchaf yn cyrraedd 39 o rywogaethau.


Roedd yn bleser cwrdd â’r myfyrwyr newydd a gweld y brwdfrydedd sydd ganddynt dros gadwraeth. Mae’n ysbrydoledig iawn gwybod bod y genhedlaeth nesaf mor awyddus i ddysgu am rywogaethau sydd mewn perygl yng Nghymru.