Mae GWCT Cymru wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn er mwyn mynd ati i greu prosiect yn gweithio ag amryw o ffermydd ar draws y tirwedd dynodol hwn.
Logan Crimp, Swyddog Amaeth a Chadwraeth GWCT Cymru fydd yn arwain ar y gwaith gan weithio yn agos â ill lead 4 fferm ar draws yr ynys gan harneisio yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud ar ffermydd er budd bioamrywidaeth, ynghyd â chasglu gwybodaeth bwysig yn ymwneud â rhywogaethay amrywiol o fywyd gwyllt a geir ar ffermydd.
Y PROSIECT
Bydd y prosiect yn cynnwys bwydo ychwanegol ar gyfer adar ynghyd â’r defnydd o gamerau, teclynnau adnabod synnau a chamerau AI er mwyn monitro bywyd gwyllt, eu presenoldeb a’u symudiadau. Ynghyd â hyn byddwn yn ymgysylltu â chymunedau sy’n lleol i’r ffermydd er mwyn helpu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r buddion o ran bioamrywiaeth ar ffermydd.

Bwydo Ychwanegol – bydd bwcedi bwydo adar yn cael eu gosod mewn lleoliadau ar draws y 4 fferm ar Ynys Môn, er mwyn bwydo’r adar yng nghyfnod llwglyd y gaeaf. Mydd camerau cudd yn adnabod y rhywogaethau sy’n bwydo, tra y bydd y dyfeisiau adnabod swn yn nodi’r adar hynny na fydd yn defnyddio’r bwcedi.
Camerau AI ar giatiau – bydd camerau yn cael eu gosod ar amryw o giatiau ar y 4 fferm. Yna bydd technoleg AI yn adnabod y rhywogaethau yn y lluniau a gaiff eu cymeryd, monitro y rhywogaeth sy’n bresenol ar y fferm hwnnw ac yn defnyddio’r mynediad hwnnw i deithio ar draws y fferm (adar, mamaliaid, da byw).
NOD Y PROSIECT
Bydd canlyniadau’r prosiect yn helpu i adeiladu darlun o fioamrywiaeth y ffermydd, ac yn gyfle i arddangos buddion arferion ffermio. Bydd yn cyfrannu at roi llais i ffermwyr am eu llwyddiannau o safbwynt bioamrywaieth eu fferm gan rannu hyn drwy’r gymuned ffermio a bwydo mewn i bolisiau yng Nghymru.

YMGYSYLLTU
Ynghyd ag ymgysylltu â gweithio â 4 fferm ar Ynys Môn, bydd ymgysylltu ag ysgolion, cymunedau a clybiau ffermwyr ifanc lleol yn mynd law yn llaw a’r gwaith ymarferol a rhannu’r hyn sy’n cael ei wneud. Byddwn yn mynychu digwyddiadau mawr fel Sioe Môn er mwyn ein galluogi i gyrraedd cymuned ehangach. Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor hefyd yn cymryd rhan, gan fynychu diwrnod maes i weld y gwaith, gydag un myfyriwr o’r ail flwyddyn yn seilio ei thraethawd hir ar y gwaith drwy wirfoddoli â ni.
YR IAITH GYMRAEG
Mae ffermio yn chwarae rôl allweddol yn hanes diwylliannol Cymru, gyda’r Iaith Gymraeg yn flaenllaw i hynny. Bydd adnoddau a chyfathrebiadau â’r ffermwyr, partneriaid ac yn ystod digwyddiadau i gyd yn cael ei gynnal yn ddwyieithog.
Bydd y prosiect yn bwydo i mewn i Gymuned Ffermio GWCT Cymru, drwy annog ffermwyr i arddangos y gwaith cadwraeth wych sydd eisoes yn cael ei wneud ar lawr gwlad yn Ynys Môn. Byddwn hefyd yn annog ffermwyr i gymryd rhan yng Nghyfrif Mawr Adar Ffermdir GWCT ym mis Chwefror.
Os hoffech chi glwyed mwy am y prosiect, neu gymryd rhan yn y gwaiith mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Logan Crimp lcrimp@gwct.org.uk