Siarter

Ein hamcanion

  • Adeiladu cadernid economaidd ac amgylcheddol drwy ddatblygu ‘dwysáu cynaliadwy’ o amaethyddiaeth yn unol â dull Cadwraeth Weithiol GWCT wedi ei arwain gan ffermwyr.
  • Darparu’r gymuned ffermio ledled Cymru â llwyfan i rannu gwybodaeth ac arddangos sut i gynyddu bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
  • Rhannu gwyddoniaeth GWCT a darparu cyngor i ffermwyr, a’u helpu i adnabod bylchau gwybodaeth ar gyfer ymchwil pellach er mwyn darparu atebion ymarferol i broblemau.
  • Dangos i Lywodraeth Cymru, gweinidogion a gweision sifil beth y mae ffermwyr eisiau gwneud ar gyfer yr amgylchedd a’u rhoi wrth wraidd y broses o lunio polisïau.
  • Ymgysylltu’n ehangach â’r cymunedau o ffermwyr, busnesau, cyrff anllywodraethol, ymgynghorwyr, myfyrwyr ac ysgolion, er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o faterion amaethyddol ac amgylcheddol.

Amcanion a rennir gan y Gymuned Ffermio

  • Rydym eisiau bod yn rhan o’r datrysiad i liniaru newid hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth o fewn system fusnes ffermio gynhyrchiol a chynaliadwy.
  • Rydym eisiau gweithio er mwyn cynyddu bywyd gwyllt ar ein ffermydd yn enwedig rhywogaethau dan fygythiad fel y gylfinir, yr ehedydd, y gornchwiglen a’r bras melyn.
  • Rydym yn cefnogi dyhead stôl tair coes GWCT Cymru i gadwraeth adar ffermdir dan fygythiad, sy’n cyfuno creu cynefinoedd, bwydo yn ystod y gaeaf a rheoli ysglyfaeth.
  • Rydym yn hapus i ddangos i bobl y gwaith yr ydym yn ei wneud ar y fferm er mwyn integreiddio’r broses o adfer natur gyda gostyngiadau mewn allyriadau a chynhyrchu bwyd.
  • Rydym yn adnabod buddion cydweithio a chyfnewid gwybodaeth er mwyn cyflawni adfer natur ar raddfa tirwedd.

Yr hyn y gall GWCT Cymru ei gynnig i ffermwyr

  • Cefnogi’r broses o gyfnewid gwybodaeth drwy ddigwyddiadau byw ac ar-lein a darparu a darparu rhwydwaith gwybodaeth drwy sianeli digidol gan gynnwys gwefannau, Apiau a chylchlythyrau e-bost.
  • Ymgeisio am gyllid i alluogi’r gwaith o gyflawni amcanion amgylcheddol ar ffermydd unigol ac i gefnogi mentrau cydweithredol ar raddfa tirwedd fel Clystyrau Ffermwyr.
  • Partneru â ffermwyr i addasu a theilwra mesurau amgylcheddol ar gyfer safleoedd a systemau ffermio penodol er mwyn sicrhau cadwraeth sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
  • Cyflwyno tystiolaeth i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r rhai sy’n dylanwadu polisïau o’r dull orau i adfer yr amgylchedd o fewn system ffermio broffidiol.
  • Pwysleisio ar yr angen am fusnes ffermio broffidiol er mwyn tanseilio gallu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth.

Facebook @GWCTCymru

Facebook Pagelike Widget