{"id":4769,"date":"2025-07-01T13:48:19","date_gmt":"2025-07-01T12:48:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.gwct.wales\/?p=4769"},"modified":"2025-09-25T09:33:26","modified_gmt":"2025-09-25T08:33:26","slug":"gwct-wales-attend-royal-welsh-hill-farming-event-2025","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/gwct-wales-attend-royal-welsh-hill-farming-event-2025\/","title":{"rendered":"Digwyddiad Ffermio\u2019r Ucheldir Sioe Frenhinol Cymru 2025"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfle gwerthfawr i wrando ar brofiadau ffermwyr mynydd Cymru<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Croesawyd GWCT Cymru i ddigwyddiad <strong>Ffermio\u2019r Ucheldir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru<\/strong> eleni dydd Iau 12 Mehefin yn <strong>Fferm Hafod y Llan, Beddgelert<\/strong>. Achlysur pwysig a oedd yn dathlu r\u00f4l hanfodol ffermio mynydd tra\u2019n cynnal cymunedau gwledig, bioamrywiaeth, ac ucheldiroedd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wedi&#8217;i drefnu a\u2019i gynnal gan <strong>Bwyllgor Sir nodedig RWAS 2025 Sir Gaernarfon<\/strong>, daeth y digwyddiad \u00e2 ffermwyr, rheolwyr tir, llunwyr polisi a chadwraethwyr ynghyd i drafod yr heriau a&#8217;r cyfleoedd sy&#8217;n wynebu ffermio ucheldir.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y dydd, cynhaliwyd <strong>dau seminar<\/strong> yn y brif babell <strong>ger stondin GWCT Cymru<\/strong>. Glyn Roberts cyn lywydd FUW oedd yn cadeirio&#8217;r ddwy drafodaeth, gyda chwestiynau i ddilyn gan y gynulleidfa.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-1024x682.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4771\" srcset=\"https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2-930x620.jpg 930w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/07\/WHATSA2.jpg 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y seminar gyntaf <em><strong>&#8220;Ffermio&#8217;r genhedlaeth nesaf: Arloesi, geneteg a dyfodol ucheldiroedd&#8221;<\/strong><\/em> yn cynnwys mewnwelediadau gan yr Athro Prysor Williams o Brifysgol Bangor, Dewi Jones, gweithredwr Innovis, ac Emma Jones, arbenigwr rheoli busnes a da byw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr ail seminar <em><strong>&#8220;Polisi, arfer da a chynhyrchiant: Ble mae ffermio mynydd yn mynd?&#8221;<\/strong><\/em> yn cynnwys siaradwyr, Giles Hunt, Cyfarwyddwr Tir ac Ystad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Herley Brown-Keech, arbenigwr ar laswelltir o gwmni Germinal, Dan Jones, ffermwr tenant i&#8217;r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar draws y safle roedd llawer o stondinau gan gynnwys bwyd a diod, offer ffermio, iechyd a lles anifeiliaid, gwybodaeth am gnydau a mwy. Ynghyd \u00e2 llawer o arddangosiadau a chystadlaethau gan gynnwys c\u0175n defaid, beirniadu stoc, Arddangosfa Cymdeithas Ceffylau Sir Gogledd Cymru, cystadleuaeth rhyng-golegol gyrru beiciau cwad a llawer mwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd cyfle i ymwelwyr \u00e2<strong> stondin GWCT Cymru<\/strong> glywed mwy am ein gwaith ymchwil ar ecosystemau ucheldir, rheoli ysglyfaethwyr, ac effaith gadarnhaol arferion cadwraethol integredig. <strong>Roedd ein t\u00eem wrth law i drafod prosiectau cyfredol yng Nghymru, gan gynnwys gwaith ar gadwraeth y gylfinir, a phwysigrwydd systemau ffermio sy&#8217;n cydbwyso cynhyrchu bwyd ag adferiad natur.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i wrando ar brofiadau ffermwyr mynydd Cymru, y mae eu profiad gyda&#8217;r tir yn hanfodol i lunio cynlluniau cyllido amaeth-amgylcheddol yn y dyfodol. Wrth i&#8217;r sector lywio newidiadau i gynlluniau cymorth a thargedau amgylcheddol, mae GWCT Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ochr yn ochr \u00e2&#8217;r gymuned ffermio i sicrhau tirweddau gwydn sy&#8217;n gyfoethog o fywyd gwyllt ac yn gynhyrchiol ar gyfer cenedlaethau i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffem ddiolch i&#8217;r trefnwyr am ddigwyddiad gwych ac edrychwn ymlaen at barhau \u00e2&#8217;r sgyrsiau pwysig hyn ledled Cymru a thu hwnt.<a><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyfle gwerthfawr i wrando ar brofiadau ffermwyr mynydd Cymru Croesawyd GWCT Cymru i ddigwyddiad Ffermio\u2019r Ucheldir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni dydd Iau 12 Mehefin yn Fferm Hafod y Llan, Beddgelert. Achlysur pwysig a oedd yn dathlu r\u00f4l hanfodol ffermio mynydd tra\u2019n cynnal cymunedau gwledig, bioamrywiaeth, ac ucheldiroedd Cymru. Wedi&#8217;i drefnu a\u2019i gynnal gan Bwyllgor&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/gwct-wales-attend-royal-welsh-hill-farming-event-2025\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Digwyddiad Ffermio\u2019r Ucheldir Sioe Frenhinol Cymru 2025<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":4770,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"categories":[8,94,10,6],"tags":[67,58,56,55],"class_list":["post-4769","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-events","category-farming","category-farming-community","category-news","tag-farming","tag-agricultural-show","tag-events","tag-gwct-wales"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.6","language":"cy","enabled_languages":["gb","cy"],"languages":{"gb":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4769","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4769"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4769\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4770"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4769"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4769"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4769"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}