{"id":562,"date":"2022-06-25T19:47:20","date_gmt":"2022-06-25T18:47:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.gwct.wales\/?page_id=562"},"modified":"2024-11-19T16:47:20","modified_gmt":"2024-11-19T16:47:20","slug":"gareth-wyn-jones","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/case-studies\/gareth-wyn-jones\/","title":{"rendered":"Gareth Wyn Jones"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-image is-resized\">\n<figure class=\"alignright size-large has-custom-border\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-482\" style=\"border-radius:20px;width:358px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/www.gwct.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/06\/Screenshot-2022-02-22-at-18.12.05-2048x1152.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2006 sefydlodd Gareth Wyn Jones a 22 o ffermwyr defaid cyfagos iddo ym mynyddoedd y Carneddau y gymdeithas bori gyntaf erioed yn y DU gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri, yr UE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Y syniad oedd addasu nifer y defaid ar y bryn gan gadw cadwraeth mewn cof er mwyn rhoi cyfle i gynefinoedd a bywyd gwyllt y tir uchel i adfer. Mae cadw heidiau oddi ar y mynyddoedd yn y gaeaf wedi arwain at welliant enfawr i&#8217;r mawndiroedd, ei fioamrywiaeth a faint o garbon y gall ei amsugno. Ond nid dim ond gorbori sy\u2019n cael effaith negyddol, roedd rhai ardaloedd heb eu pori yn llawn wedi gordyfu. Mae gwartheg, defaid a merlod y Carneddau a reolir gan y ffermwyr, yn chwarae rhan bwysig yn iechyd y pridd, gan adfywio planhigion prin a chynyddu bywyd pryfed sy&#8217;n hanfodol i gynnal poblogaethau adar gan gynnwys y fr\u00e2n goesgoch prin. Dywedodd Gareth, fferm Tyn Llwyfan, ger Llanfairfechan, Gwynedd,&nbsp;\u201cBuaswn yn croesawu gweinidogion Llywodraeth Cymru i ymweld \u00e2\u2019r Carneddau, er mwyn gweld bod y cynefinoedd wedi newid er gwell, a sut rydym yn rheoli gwahanol ardaloedd, ac yn penderfynu bod digon o anifeiliaid pori mewn un llecyn neu ychydig yn ormod o ddefaid ar lecyn arall.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y ogystal \u00e2 gwelliannau i gynefinoedd, mae\u2019r gymdeithas pori yn ariannu\u2019r gwaith o reoli\u2019r llwynogod ar y mynydd, sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr ysgyfarnogod ac adar prin sy\u2019n nythu ar y ddaear, fel y gylfinir a\u2019r rugiar ddu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Credai Gareth er mwyn i gynlluniau amaeth-amgylcheddol weithio yn y dyfodol, ei bod yn hanfodol bod ffermwyr yn cael iawndal am golli incwm a bod polis\u00efau yn cymryd i ystyried y ffaith bod pob fferm yn wahanol. Mae&#8217;n angerddol bod gan dda byw rhan hanfodol i&#8217;w chwarae o hyd o ran sicrhau dau ganlyniad a ddaw law yn llaw, o ran cynhyrchu bwyd a chefn gwlad iachach. Dywedodd,&nbsp;\u201cMae llawer o bwysau gan amgylcheddwyr i atal ffermio da byw ac rwy&#8217;n credu ei fod yn anghywir. Mae gwartheg yn flaenoriaeth i iechyd a ffrwythlondeb ein pridd yn ogystal \u00e2 rhoi protein o&#8217;r ansawdd gorau i ni, ac o ddefaid mae gwl\u00e2n yn fonws y dylem fod yn gwneud llawer mwy o ddefnydd ohono.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ei neges i lunwyr polisi yw gwrando ar y Gweithwyr Cadwraethol ar lawr gwlad. Dywedodd,&nbsp;\u201cSiaradwch \u00e2 ffermwyr yn unigol er mwyn darganfod y ffordd orau i wario arian trethdalwyr i ddiogelu\u2019r amgylchedd a chynhyrchu bwyd fforddiadwy. Rydym ar drobwynt anferthol, mae am fod yn anodd, ond mae&#8217;n rhaid ei wneud yn iawn.&#8221;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<div class=\"nv-iframe-embed\"><iframe loading=\"lazy\" title=\"Why farmers are the future of the Welsh environment - Gareth Wyn Jones\" width=\"1200\" height=\"675\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/kFvDleXiMbU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/div>\n<\/div><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn 2006 sefydlodd Gareth Wyn Jones a 22 o ffermwyr defaid cyfagos iddo ym mynyddoedd y Carneddau y gymdeithas bori gyntaf erioed yn y DU gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri, yr UE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Y syniad oedd addasu nifer y defaid ar y bryn gan gadw cadwraeth mewn cof er mwyn rhoi&hellip;&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/case-studies\/gareth-wyn-jones\/\" rel=\"bookmark\">Read More &raquo;<span class=\"screen-reader-text\">Gareth Wyn Jones<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"parent":450,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"neve_meta_sidebar":"","neve_meta_container":"","neve_meta_enable_content_width":"","neve_meta_content_width":0,"neve_meta_title_alignment":"","neve_meta_author_avatar":"","neve_post_elements_order":"","neve_meta_disable_header":"","neve_meta_disable_footer":"","neve_meta_disable_title":"","footnotes":""},"class_list":["post-562","page","type-page","status-publish","hentry"],"translation":{"provider":"WPGlobus","version":"3.0.6","language":"cy","enabled_languages":["gb","cy"],"languages":{"gb":{"title":true,"content":true,"excerpt":false},"cy":{"title":true,"content":true,"excerpt":false}}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/562","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=562"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/562\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/450"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.gwct.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=562"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}