Cyfrif Mawr Adar Ffermdir 2024

2-18 Chwefror 2024

Cymerwch ran yng Nghyfrif Mawr Adar Ffermdir 2024 drwy glicio yma

Croeso

Sue Evans

Mae Cymuned Ffermio GWCT Cymru wedi ei sefydlu er mwyn darparu llwyfan i ffermwyr ar draws y wlad sydd yn awyddus i integreiddio’r gwaith o adfer bioamrywiaeth a lliniaru newid hinsawdd gyda mentrau ffermio proffidiol. Mae’r gweithwyr cadwraethol hyn yn dystiolaeth bod y gymuned ffermio eisiau cynyddu bioamrywiaeth yn yr amgylchedd a geir ei ffermio ac yn deall sut i gyflawni hyn. Dylai’r rhai sy’n gyfrifol am lunio polisïau ffermio wrando ar y gweithwyr cadwraethol hyn yn ystod y cyfnod heriol sydd ohoni.

Mae ein Cymuned Ffermio yn cynnig rhwydwaith i ffermwyr rannu gwybodaeth a phrofiad a llais unedig er mwyn anfon neges bwerus i Lywodraeth Cymru. Yr ydym am sicrhau bod y bobl ar lawr gwlad wrth wraidd dull newydd o ymdrin â pholisi amaeth- amgylcheddol, sy’n cael ei ariannu’n ddigonol ac sy’n addas i ddarparu nwyddau cyhoeddus sydd eu hangen ar frys.

Mae’r chwe astudiaeth achos a nodir yma yn dangos rhai o’r ystod eang o ddulliau arloesol o ymdrin â’r materion heriol sy’n wynebu ffermwyr Cymru heddiw. Mae GWCT Cymru yn gallu defnyddio degawdau o ymchwil gwyddonol ar gyfer datrysiadau ymarferol i heriau cadwraethol. Mae ein cri i ‘ddilyn y gwyddoniaeth’ i’w gweld yn y treial gan John Warburton Lee a Trystan Edwards o fwydo a chnwd gorchudd yn ystod y gaeaf.

Os ydym ni am wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a chyrraedd targedau carbon, dylai mesurau cadwraeth fod ar raddfa tirwedd a chynnwys cymunedau lleol. Ar ôl datblygu’r dull Clwstwr Ffermwyr, rydym wedi gweld yr hyn y gall ffermwyr ei gyflawni pan fydd ganddynt y cymorth cywir i’w helpu i weithio gyda’i gilydd. Mae cymdeithas bori gyntaf erioed Gareth Wyn Jones yn fodel ysbrydoledig o bŵer y math hwn o gydweithio.

Mae GWCT Cymru wastad wedi hyrwyddo dull gweithredu ar lawr gwlad sy’n cael ei arwain gan ffermwyr yn hytrach na “gwaith cadwraeth wrth ddesg” o’r top i’r gwaelod. Mae Sam Kenyon yn enghraifft wych, sy’n angerddol am ffermio cynaliadwy, ac o ganlyniad yn dyst i adferiad yn ei phridd a dŵr mwy glan yn yr afonydd sy’n rhedeg drwy’r fferm.

Bydd gwarchodfeydd natur a dynodiadau amddiffynnol yn chwarae rhan wrth wrthdroi colli bioamrywiaeth a dal a storio carbon. Ond rheolwyr tir preifat sy’n rheoli’r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru, fel y rhai a nodir yma, o ffermydd bach teuluol i fusnesau ar raddfa fwy. Mae Cymuned Ffermio GWCT Cymru yn cydnabod mai eu sgiliau a’u hymrwymiad, wedi’i gyfuno â chefnogaeth gyllidol ddigonol a chyngor da yn seiliedig ar wyddoniaeth, yw’r cyfuniad orau i lwyddo.

Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â’r Gymuned Ffermio heddiw.

Cofion gorau,

Sue Evans

Facebook @GWCTCymru

Facebook Pagelike Widget