Rydym yn recriwtio Swyddog Ymgysylltu rhan-amser i gefnogi ein gwaith cynyddol ledled Cymru.
Bydd y rôl yn helpu i gryfhau presenoldeb GWCT, datblygu partneriaethau, cefnogi digwyddiadau a phrosiectau, a gwella cyfathrebu ac hyfforddiant. Fel siaradwr Cymraeg rhugl gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth yrru ymgysylltu ac incwm yng Nghymru.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn isod.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at kfay@gwct.org.uk erbyn Dydd Gwener 17 Ebrill.