Prosiect Adfer Bioamrywiaeth Tir Amaethyddol – AHNE Ynys Môn
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus gyda’n cais am gyllid drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE) i gynnal prosiect cyffrous adfer bioamrywiaeth ffermdir ar Ynys Môn.
Mae’r prosiect hwn yn fenter sy’n anelu at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth ar dir fferm o fewn yr AHNE, gan ganolbwyntio’n benodol ar adfer adar ffermdir a bywyd gwyllt. Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect blaenorol yn ymwneud â bwydo ychwanegol yn y gaeaf, bydd y cam nesaf yma yn ein caniatáu i barhau i weithio gyda ffermydd ledled yr ynys i gyflwyno camau cadwraeth ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn cefnogi bywyd gwyllt, ymgysylltu â rheolwyr tir a hyrwyddo arferion defnydd tir cynaliadwy.



Trwy gynlluniau bioamrywiaeth wedi’u teilwra ar gyfer pob fferm sy’n cymryd rhan, bydd y prosiect yn cefnogi ystod o weithgareddau integredig gan gynnwys:
- bwydo ychwanegol
- creu a rheoli gorchudd adar gwyllt ac ymylon caeau yn llawn paill/neithdar
- gwelliannau i ffiniau gwrychoedd a/neu gaeau
- gosod safleoedd nythu a chlwydo.
Bydd hefyd yn cynnwys monitro blynyddol o boblogaethau adar ffermdir ac ansawdd cynefinoedd, gan helpu i ddangos effeithiolrwydd yr ymyriadau hyn a llywio gwelliannau parhaus.
Edrychwn ymlaen at ddechrau’r prosiect ym mis Tachwedd eleni, a byddwn yn eich diweddaru wrth i’r prosiect fynd rhagddo.
Logan Crimp, Swyddog Amaeth a Chadwraeth GWCT Cymru fydd yn arwain ar y prosiect hwn. Dywedodd “Dangosodd gwaith y llynedd sut y gall camau bach, ymarferol wneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth ffermdir wrth weithio gyda ffermwyr. Mae’n galonogol iawn, gyda mwy o ffermydd yn cymryd rhan y tro hwn a gyda’r gallu i wneud mwy, rydym yn gobeithio y bydd eleni yn cyflawni mwy o ganlyniadau gwych ar gyfer bioamrywiaeth ledled Ynys Môn.”
Am ragor o wybodaeth neu i drafod y prosiect cysylltwch â Logan lcrimp@gwct.org.uk